Cyfleusterau

Mae Maes Carafannau Caerdydd wedi’i leoli mewn parcdiroedd hyfryd yng nghanol y ddinas ac mae’n llecyn perffaith ar gyfer ymweld â’r amryw atyniadau sydd yn y ddinas a’r ardaloedd cyfagos.

I sicrhau eich bod yn mwynhau eich arhosiad mae gennym sawl cyfleuster ar gael ar y safle:

  • 43 o leiniau glas-crid unigol, pob un â’i gyflenwad dŵr ei hun a phwyntiau cyswllt trydan 16 amp.
  • Lle i bebyll ar dir meddal
  • Dau floc gwasanaeth gyda chawodydd a thoiledau. Mae gan un ohonynt gyfleusterau teuluol arbenigol i bobl anabl.
  • Cyfleusterau golchi dillad a mannau golchi llestri
  • Wifi am ddim yn ardal y swyddfa a’r dderbynfa
  • Mae modd llogi beiciau gan Pedal Power
  • Monitro 24 awr drwy deledu cylch cyfyng
Site office and shop
Tents at Cardiff Caravan and Camping Park
Caravan park from above
Campervan at Cardiff Caravan Park

Pedal Power

Pedal Power Cardiff

 

Nod elusen llogi beiciau Pedal Power yw gwneud beicio yn hygyrch i bawb. Gallwch logi beiciau i oedolion a phlant yn ogystal ag amrywiaeth eang o feiciau arbenigol a beics tair olwyn. Mae staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig all helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sydd gennych i feicio.

Gallwch fwynhau parcdir di-draffig a thaith hanesyddol Taith Taf, sy’n ymestyn o’r glannau ym Mae Caerdydd i dref farchnad Aberhonddu.

Mae gan Pedal Power ei gaffi ei hun hefyd, sy’n cynnig prydau a byrbrydau iach.

Nod y caffi yw dod o hyd i gynhwysion mor foesegol â phosibl gan ddefnyddio cig lleol a chynhyrchion Masnach Deg. Maent yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion deietegol, gan gynnwys opsiynau heb glwten, rhai figan a llysieuol. Yn aml, mae digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian yn cael eu cynnal yn y caffi, ac mae cacennau a phwdinau cartref blasus yno drwy’r amser.

Pedal Power bike hire, Cardiff