Cyfleusterau
Mae Maes Carafannau Caerdydd wedi’i leoli mewn parcdiroedd hyfryd yng nghanol y ddinas ac mae’n llecyn perffaith ar gyfer ymweld â’r amryw atyniadau sydd yn y ddinas a’r ardaloedd cyfagos.
I sicrhau eich bod yn mwynhau eich arhosiad mae gennym sawl cyfleuster ar gael ar y safle:
- 43 o leiniau glas-crid unigol, pob un â’i gyflenwad dŵr ei hun a phwyntiau cyswllt trydan 16 amp.
- Lle i bebyll ar dir meddal
- Dau floc gwasanaeth gyda chawodydd a thoiledau. Mae gan un ohonynt gyfleusterau teuluol arbenigol i bobl anabl.
- Cyfleusterau golchi dillad a mannau golchi llestri
- Wifi am ddim yn ardal y swyddfa a’r dderbynfa
- Mae modd llogi beiciau gan Pedal Power
- Monitro 24 awr drwy deledu cylch cyfyng
Safle gwych. Llain wersylla o faint da, staff cyfeillgar, cyfleusterau glân a lleoliad anhygoel. Byddwn i’n ei argymell yn fawr a byddwn i wrth fy modd yn aros eto. Sophie ar Facebook
![IMG_0102 Site office and shop](https://www.maescarafannaucaerdydd.co.uk/wp-content/uploads/IMG_0102-700x467.jpg)
![IMG_5509 Tents at Cardiff Caravan and Camping Park](https://www.maescarafannaucaerdydd.co.uk/wp-content/uploads/IMG_5509-700x467.jpg)
![DJI_0064 Caravan park from above](https://www.maescarafannaucaerdydd.co.uk/wp-content/uploads/DJI_0064-700x467.jpg)
![IMG_0120 Campervan at Cardiff Caravan Park](https://www.maescarafannaucaerdydd.co.uk/wp-content/uploads/IMG_0120-700x467.jpg)
Pedal Power
Nod elusen llogi beiciau Pedal Power yw gwneud beicio yn hygyrch i bawb. Gallwch logi beiciau i oedolion a phlant yn ogystal ag amrywiaeth eang o feiciau arbenigol a beics tair olwyn. Mae staff a gwirfoddolwyr hyfforddedig all helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sydd gennych i feicio.
Gallwch fwynhau parcdir di-draffig a thaith hanesyddol Taith Taf, sy’n ymestyn o’r glannau ym Mae Caerdydd i dref farchnad Aberhonddu.
Mae gan Pedal Power ei gaffi ei hun hefyd, sy’n cynnig prydau a byrbrydau iach.
Nod y caffi yw dod o hyd i gynhwysion mor foesegol â phosibl gan ddefnyddio cig lleol a chynhyrchion Masnach Deg. Maent yn darparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion deietegol, gan gynnwys opsiynau heb glwten, rhai figan a llysieuol. Yn aml, mae digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian yn cael eu cynnal yn y caffi, ac mae cacennau a phwdinau cartref blasus yno drwy’r amser.
![pedal Pedal Power bike hire, Cardiff](https://www.maescarafannaucaerdydd.co.uk/wp-content/uploads/pedal.jpg)