Archebion

Gwybodaeth Pwysig

Mae Maes Carafanau Caerdydd yn llawn ar y dyddiadau canlynol:

2024

Ebril 26, 27

Mai 4, 5 (Bruce Springsteen), 11, 17, 18, 25, 28, 31

Mehefin 1, 7, 8, 11 (Pink!), 14, 15, 18 (Taylor Swift), 20, 21, 25 (Foo Fighters), 26, 29

Gorffennaf 5, 6 (Manics & Suede) 12, 13, 17, 18, 19, 20 26, 27

Awst 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 16, 17, 22

Hydref 5

Tachwedd 1,8, 9

2025

Chwefror 22

Mawrth 15

I archebu arhosiad ar y safle, cysylltwch â ni a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau’r hyn sydd ar gael.

Os oes angen i chi ganslo’ch archeb, cysylltwch â ni o fewn 48 awr i ddyddiad eich archeb. Byddwn yn caniatáu i chi drosglwyddo’r archeb honno i ddyddiad arall o fewn cyfnod o 12 mis.

Sylwch

  • Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gadw llain i fan neu garafán.
  • 28 diwrnod yw’r hiraf y gellir aros ar ein maes gwersylla.
  • Rydym yn defnyddio’r tâl ar gyfer y noson gyntaf yn flaendal na ellir ei ad-dalu.
  • Dim ond Punt Sterling rydym yn ei dderbyn.
  • Rydym yn derbyn arian papur o Fanc yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Derbynnir yr holl gardiau credyd a debyd mawr ac eithrio American Express.

    Ymholi am archeb


    Edrychwch ar y dyddiadau sydd wedi’u harchebu’n llawn ar frig y dudalen hon.


    Gwybodaeth archebu

    • Mae ein lleiniau ar gael o hanner dydd ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd.
    • Os ydych yn disgwyl cyrraedd ar ôl 5pm rhowch wybod i’r maes ymlaen llaw.
    • Rhaid gadael lleiniau erbyn 10:30am ar y diwrnod y byddwch yn gadael.
    • Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch neu os oes gennych unrhyw drafferthion, gofynnwch i’r staff ar y safle. Nhw sy’n gyfrifol am redeg y maes yn ddidrafferth ac am wneud eich arhosiad mor ddymunol â phosib.
    • Dilynwch geisiadau’r staff a phob hysbysiad a chyfarwyddyd. Mae eich iechyd a’ch diogelwch yn bwysig, felly cofiwch ofalu amdanoch chi’ch hun ac eraill ar y safle.
    • Er mwyn diogelwch pawb, gwnewch yn siŵr bod eich offer trydanol yn cydymffurfio â’r holl Safonau a Rheoliadau Prydeinig cyfredol. Ni sy’n gyfrifol am ddiogelwch y pwyntiau trydan hyd at y socedi, felly chi sy’n gyfrifol am geblau, plygiau a’r holl offer sy’n cysylltu â nhw.
    • Sicrhewch eich bod chi, ac unrhyw un sy’n aros gyda chi, yn parchu cysur a hwylustod defnyddwyr eraill y gwersyll a thrigolion lleol. Pan fyddwch ar y safle, peidiwch ag ymddwyn mewn ffordd sy’n dwyn anfri ar y Maes Carafanau.
    • Cyfrifoldeb a goruchwyliaeth rhieni. Mae rhieni neu warcheidwaid yn gyfrifol am eu plant ar bob adeg.
    • Ni chaniateir gemau pêl ger y lleiniau. Mae caeau chwarae Pontcanna gyferbyn â’r maes.
    • Ni oddefir cam-drin gwesteion eraill na staff yn eiriol neu gorfforol ar y safle. Rydym yn cadw’r hawl i derfynu gwyliau heb iawndal, lle mae ymddygiad afresymol neu wrthgymdeithasol gan bobl a enwir ar yr archeb neu eu gwesteion, yn amharu ar fwynhad, cysur neu iechyd gwesteion eraill.
    • Dim ond y bobl hynny a restrir ar yr archeb all feddiannu a defnyddio’r llain a ddyrannwyd.
    • Os bydd pobl heb awdurdod yn meddiannu neu’n defnyddio’r llain, bydd eich archeb yn cael ei derfynu a gofynnir i chi adael, heb unrhyw ad-daliad. Dim ond un garafán, cartref modur, pabell neu babell drelar a ganiateir fesul llain.
    • Rhaid i chi adael eich llain erbyn 10.30am ar y diwrnod y byddwch yn gadael y maes, os hoffech aros yn hirach, siaradwch â’r staff.