Lleoli Maes Carafanau Caerdydd
Rydym wedi ein lleoli mewn parcdir hardd yn agos at galon y ddinas a gerllaw Cae Criced Gerddi Sophia ac ychydig funudau o Stadiwm Principality.
Sut i ddod o hyd i ni
- Gadewch yr M4 ar gyffordd 32 a dilynwch yr A470 Canol y Ddinas.
- Pan welwch y castell yn dechrau dod i’r golwg ar y dde, symudwch i’r lôn dde.
- Pan yrrwch dros y bont (dros Afon Taf), trowch i’r dde wrth y golau traffig cyntaf ar i Heol y Gadeirlan.
- Wrth y golau traffig nesaf, trowch i’r dde (Clos Sophia).
- Trowch i’r chwith wrth y gylchfan a gyrrwch yn syth ymlaen heibio i’r cae criced a bydd y Cae Carafanau ar y chwith.
Lleoliad What 3 words
Trefnu eich taith
Lleoliad delfrydol i archwilio parciau hardd Caerdydd.
Mae digonedd o barciau a gerddi gwych yng Nghaerdydd, o barciau lleol a chaeau chwarae i warchodfeydd natur lleol a pharciau gwledig.