Croeso i faes Carafannau a Gwersylla Caerdydd

Mae Maes Carafanau Caerdydd wedi’i leoli mewn parcdir hardd yn agos at galon y ddinas. Lle canolog delfrydol i ddarganfod Caerdydd ac atyniadau niferus ac amrywiol y rhanbarth.

Er gwaethaf y lleoliad canolog, mae’n teimlo fel petai yn y wlad, sy’n ei gwneud yn hawdd anghofio mai dim ond taith fer ar droed yw hi i ganol y ddinas. Gallwch hefyd gyrchu atyniadau glannau Bae Caerdydd ar droed neu ar fws dŵr.

Ymhlith yr atyniadau a’r gweithgareddau lleol mae Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Parc Bute, Amgueddfa Cymru, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac un o ganolfannau siopa gorau’r wlad. Gyda llawer mwy i’w ddarganfod o fewn awr o yrru. Mae beiciau ar gael i’w llogi ar y safle gan Pedal Power, sy’n ffordd wych o grwydro’r ddinas neu fynd ar hyd Taith Taf.

Tripadvisor 4 star rating

Gobeithio y bydd ein llety yn bodloni pob un o’ch anghenion.

Cyfleusterau Tai bach

Cyfleusterau i bobl anabl

Bloc cawodydd

Wi-Fi yn ardal y dderbynfa

Cyfleusterau golchi dillad

Llogi beiciau

Maes penigamp

“Man mor wych. Glân, heddychlon, mawr, staff gwych a lleoliad ardderchog. Byddwn yn aros yn hirach y tro nesaf. Yn ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded, siopa, bwytai, tafarndai, archfarchnad. Roedd staff y dderbynfa mor gymwynasgar o’r tro cyntaf y gwnaethon ni gysylltu â nhw a gwnaethon nhw ffonio’n ôl i gadarnhau’r archeb a rhoi cyngor manwl ar sut i gyrraedd y lleoliadau yr oedden ni am fynd iddynt.”

Terry
Gorffennaf 2022

Trip Advisor logo